Creu cyfrif gwrandawiadau Llys a Thribiwnlys
Mae cyfrifon gwrandawiadau Llys a Thribiwnlys yn cael eu creu ar gyfer defnyddwyr proffesiynol sydd angen gallu gweld gwybodaeth GLlTEF fel rhestrau gwrandawiadau, ond nid oes ganddynt y gallu i greu cyfrif gan ddefnyddio MyHMCTS neu'r Platfform Cyffredin e.e. aelodau o'r cyfryngau
Bydd daliedydd cyfrif, unwaith y bydd wedi mewngofnodi, yn gallu dewis pa wybodaeth y mae'n dymuno ei derbyn trwy e-bost a hefyd weld gwybodaeth ar-lein nad yw ar gael i'r cyhoedd, ynghyd â gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.
Byddwn yn cadw'r wybodaeth bersonol a roir gennych yma i reoli eich cyfrif defnyddiwr a'n gwasanaethau