Datganiad hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar www.court-tribunal-hearings.service.gov.uk.
Mae'r gwasanaeth gwrandawiadau lysoedd a Thribiwnlysoedd yn darparu llwyfan cyhoeddi i alluogi i wybodaeth, megis rhestrau gwrandawiadau, a ddarperir gan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEF) gael ei rhannu, ei harddangos a'i diweddaru fel y bo'n briodol. Bydd yn galluogi arddangos gwybodaeth i ddefnyddwyr y llysoedd, yn gyson â gweithdrefnau awdurdodaethau a rheolau busnes. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi ymrwymiad GLlTEF i gyfiawnder agored a darparu gwybodaeth dryloyw a chyson am lysoedd a thribiwnlysoedd ar draws awdurdodaethau.
GLlTEF sy'n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon, felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor hygyrch â phosibl. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:
- newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a'r ffontiau neu gosodiadau'r dyfais
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.
Mae gan AbilityNet (mae'n agor mewn ffenestr newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Er bod y rhan fwyaf o restrau gwrandawiadau o fewn y gwasanaeth yn hygyrch, dim ond fel dogfen PDF neu Word (ffeiliau fflat) y gellir gweld a chyflwyno rhai rhestrau gwrandawiadau. Gall y rhain fod yn anodd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin fynd drwyddynt gan fod y cynnwys heb ei dagio, heb ei deitlo ac nid yw'r tablau wedi'u marcio i alluogi defnyddwyr darllenwyr sgrin i fynd drwy'r ddogfen a nodi'r wybodaeth yn gywir.
Mae argaeledd y rhestrau gwrandawiadau hyn mewn fformat ffeil fflat yn unig yn cael eu hadolygu'n barhaus ac yn y dyfodol gellir eu cyhoeddi fel rhestrau cwbl hygyrch. Gellir cyhoeddi rhestrau wrth gefn fel ffeil gwastad pe bai integreiddiadau o systemau ffynhonnell yn methu.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae yna ddolenni sain yn ein llysoedd a'n tribiwnlysoedd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer.
Gwybodaeth am sut i gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei darllen neu Braille:
Canolfan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0656
Dydd Llun i dydd Gwener 8am - 5pm
E-bost: publicationsinformation@justice.gov.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y dudalen hon, neu'n credu nad ydym yn bodloni'r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch ag:
Canolfan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0656
Dydd Llun i dydd Gwener 8am - 5pm
E-bost: publicationsinformation@justice.gov.uk
Y Weithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n fodlon gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (mae'n agor mewn ffenestr newydd).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae GLlTEF wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 (mae'n agor mewn ffenestr newydd) a hynny oherwydd yr enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae'r cynnwys isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
- Mae rhai rhestrau gwrandawiadau a gyflwynir o fewn y gwasanaeth wedi eu cyflwyno ac i'w gweld fel dogfen PDF neu Word (ffeiliau fflat) yn unig. Mae hyn yn golygu gall defnyddwyr technoleg gynorthwyol gael trafferth wrth adolygu a deall y PDFs. Mae hyn yn methu â bodloni WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasau).
- Nid yw teitlau tudalennau yn benodol i'r cynnwys ar y sgrin ac nid oes ganddynt ddigon o wybodaeth. Gallai hyn fod yn ddryslyd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin gan na fyddent yn ymwybodol o ba dudalen y maent arni pan fyddant yn glanio arni. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.2 maen prawf llwyddiant 2.4.2 (tudalen gyda theitl): Rydym yn bwriadu datrys y mater hwn erbyn diwedd mis Ebrill 2025.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym wedi ymgysylltu'n weithredol ag awdurdodaethau ar draws GLlTEF i sicrhau bod systemau ffynhonnell yn cynhyrchu dogfennau hygyrch i'w cyhoeddi. Rydym wedi gofyn i wasanaethau adolygu gwelliannau yn y dyfodol wrth gynhyrchu dogfennau i'w gwneud yn gwbl hygyrch.
Byddwn yn cynnal profion hygyrchedd awtomataidd yn barhaus fel rhan o'n gweithgarwch datblygu.
Bydd cynnydd yn cael ei adolygu'n barhaus, gyda pharhad archwiliadau mewnol ac allanol.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Medi 2023. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 6 Mawrth 2025.
Cafodd y wefan hon ei harchwilio ddiwethaf gan dîm profi hygyrchedd GLlTEF yn y Ganolfan Ragoriaeth mewn Profi ar 18 Tachwedd 2024 ar draws ystod o dechnolegau cynorthwyol ac offer awtomataidd.